Urdd Gobaith Cymru
   Swyddfa’r Urdd
     Ffordd Llanbadarn
       Aberystwyth
         Ceredigion
          SY23 1EY

        
Ffôn 01970 613110
      Ffacs 01970 626120
Ar y We:www.urdd.org

 

 

YR URDD YN RHAN O AGORIAD Y SENEDD 

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o agoriad swyddogol adeilad Y senedd ar 1 Mawrth.

Bydd tri o gorau buddugol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2005 yn ymuno fel Côr yr Urdd sef Ysgol Bodringallt, Y Rhondda, Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog.  Bydd y tri yn ymuno fel côr unedig dan arweiniad Tim Rhys Evans.

Hefyd yn cymryd rhan bydd Lowri Walton, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2005 ac Elain Llwyd, enillydd Ysgoloriaeth Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru 2005.

Bydd y côr a’r bobl ifanc yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r Gwersyll yn gwynebu adeilad newydd Y Senedd.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

"Mae'n anrhydedd enfawr i aelodau'r Urdd fod yn rhan o ddathliadau agor Y Senedd.  Mae llwyddiant Y Senedd, fel llwyddiant plant a phobl ifanc Cymru, yn hanfodol i ddyfodol ein gwlad.  Mae'n wych fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i berchenogi'r adeilad o'r diwrnod cyntaf un."

Mae’r Urdd yn ddiolchgar iawn i gwmni Arriva am ei nawdd.

Meddai Graeme Bunker, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Trenau Arriva:

“Mae’n bleser gan Gwmni Arriva, un o Brif Gwmnïau Trenau Cymru noddi aelodau Côr yr Urdd ar y daith hanesyddol yma i Gaerdydd. Bydd y criw yn manteisio ar ein gwasanaeth newydd o Gaergybi i Gaerdydd, gwasanaeth sy’n rhedeg bob dwy awr ac sy’n cryfhau cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd.”

Am fwy o fanylion cysyllter â Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Swyddfa’r Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, 01970 613115, manonwyn@urdd.org

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Urdd Gobaith Cymru yw Prif Fudiad Ieuenctid Cymru.

  • Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd penigamp i blant a ieuenctid Cymru ers dros 80 mlynedd.

  • Mae gan yr Urdd dros 51,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed.

  • Sefydlwyd yr Urdd er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg a magu hyder a pharch tuag at ei gilydd a phobl eraill yn y byd.

  • Mae gweithgareddau’r Urdd yn cynnwys teithiau, chwaraeon, eisteddfod, cylchgronau, adrannau ac aelwydydd a gwersylloedd.

View in English

 

Cadeirydd: Rhiannon Lewis    Prif Weithredwr: Efa Gruffudd Jones
Cwmni Urdd Gobaith Cymru (Corfforedig), Rhif Cwmni: 263310.  Cwmni Cyfyngedig.  Cofrestrwyd yng Nghymru.  Elusen Gofrestredig Rhif 524481